Mae fy rôl yn arbenigo mewn dadansoddi methiant, yn enwedig ar gyfer y diwydiannau petrocemegol, olew a nwy a chynhyrchu pŵer. Rydw i'n rheoli ochr weithredol y busnes ymgynghori, datblygiad busnes a'r gwaith o ymchwilio i waith metelegaidd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi methiant, problemau ansawdd a materion atebolrwydd cynnyrch ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau, yn enwedig o fewn cynhyrchu pŵer, gweithfeydd petrocemegol a phrosesau ar gyfer cleientiaid rhyngwladol.
Rydw i hefyd yn rheoli rhaglenni ymchwil a datblygu'r busnes ymgynghori; un prosiect cyfredol yw astudiaeth sy'n cael ei hariannu gan Innovate UK i ddatblygu model cyfanrwydd gwreiddiol ar gyfer dur gloyw mewn cymwysiadau niwclear tymheredd uchel mewn partneriaeth gydag EDF Energy. Mae'r prosiect yn dilyn prosiect blaenorol gafodd ei ariannu gan Innovate a'r radd feistr y bu i mi ei chwblhau gyda Phrifysgol Abertawe ar ddiraddiad thermol duroedd gwrthstaen awstenitig.
