Mae'r Tîm Llyfrgell MyUni yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ymholiadau'r llyfrgell. Rydym yn dîm cyfeillgar a chynhwysol sy'n ymroddedig i ddeall anghenion holl ddefnyddwyr y llyfrgell. Cynigir ein gwasanaethau i gyd yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rydym yn gofalu am eich profiad wrth ddefnyddio gwasanaethau'r llyfrgell a chasgladiadau, yn anelu i wella ein cyfleusterau a darpariaeth ein gwasanaethau yn gyson. Croesawir a gwerthfawrogir eich adborth.
Sut i gysylltu â Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe

Byddwn wrth ein bodd i glywed oddi wrthoch chi!
Gallech ein ffonio neu ein he-bostio gyda'ch ymholiadau, sylwadau neu awgrymiadau.
Ffoniwch Dîm Llyfrgell MyUni: +44 (0) 1792 606400
Mae ein llinell ffôn ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb - 5yp.
E-bostiwch Dîm Llyfrgell MyUni
Gallwch sgwrsio gyda ni drwy glicio'r botwm isod:
Rydym yn croesawu'ch adborth er mwyn ein helpu ni i wella'n wasanaethau yn gyson. Mae yna groeso i chi gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw agwedd o'r gwasanaeth llyfrgell.