Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn dymuno cynyddu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau mewn gwybodeg iechyd? Dyma un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a gall ein gradd MSc mewn Gwybodeg Iechyd wella eich rhagolygon gyrfa.
Mae'r cwrs hwn yn defnyddio'r technolegau diweddaraf ac mae'n rhoi pwyslais cryf ar sgiliau ymarferol a dadansoddi y gallwch eu defnyddio yn eich amgylchedd gwaith. Mae ar gael naill ai fel cwrs amser llawn blwyddyn o hyd neu dros dair blynedd yn rhan-amser.
Y cwrs hwn yw'r cyntaf yng Nghymru i ennill statws achrededig Aur y Diwydiant Technoleg (Tech Industry Gold) - cymeradwyaeth o'i berthnasedd eithriadol i'r diwydiant a'i ragoriaeth academaidd. Mae'r achrediad hwn yn dyst i sut mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddiwallu gofynion cynyddol y sector gwybodeg iechyd, gan roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau hanfodol sydd eu hangen ar ddysgwyr i ffynnu. Ni yw'r cwrs Gwybodeg Iechyd cyntaf yn y DU i gael ei gydnabod gyda'r achrediad mawreddog hwn.
Drwy gysylltiadau â'r GIG a sefydliadau yn y sector gwyddorau bywyd, byddwch yn dysgu am ddatblygiadau newydd a natur newidiol technoleg mewn gwybodeg iechyd, a fydd yn eich rhoi ar flaen y gad yn y diwydiant hwn sy'n tyfu'n gyflym.