Pedwar awyren Airbus yn hedfan, gan gynnwys A220-300, A321XLR, A330-900 ac A350-1000. Credyd: Airbus SAS 2024.

Credyd: Airbus SAS 2024.

Mae Prifysgol Abertawe, Novel Engineering Consultants Ltd (Novel), ac Airbus Endeavr Wales—menter unigryw rhwng Llywodraeth Cymru ac Airbus Defence and Space — yn cydweithio ar fenter ymchwil sy'n torri tir newydd i gryfhau systemau awyrofod yn erbyn seiberymosodiadau.

Y prosiect hwn yw'r cyntaf o'i fath i archwilio agweddau penodol ar sut gellir defnyddio Peirianneg Systemau ar sail Modelau (MBSE) ar gam dylunio cynnar i wella gwydnwch systemau mewn awyrofod yn rhagweithiol.

Arweinir y prosiect gan yr Athro Siraj Shaikh, Pennaeth Grŵp Diogelwch Systemau (SSG) yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe, ynghyd â Dr Hoang Nga Nguyen. Ar y cyd ag arbenigwyr systemau seiber-ffisegol o Novel, gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio mynd i'r afael â safonau seiberddiogelwch a datblygu fframweithiau cadarn a blaenllaw i ddiogelu technolegau sy'n dod i'r amlwg.

Meddai Ian Thomas, Arweinydd Technegol yn Novel: “Drwy gyfuno arbenigedd dwfn Novel mewn peirianneg ar sail modelau ag ymchwil o'r radd flaenaf Prifysgol Abertawe mewn diogelwch systemau, rydym yn creu offer ac arferion newydd sy'n gallu cynnwys seiberddiogelwch wrth wraidd y byd awyrofod a gwella perfformiad yn y diwydiant".

Ychwanegodd yr Athro Shaikh: “Nod y prosiect hwn yw gwella seiberddiogelwch awyrofod drwy gryfhau gwydnwch a diogelu'r isadeiledd rhag fygythiadau seiber.  Mae hefyd yn creu cyfleoedd gwerthfawr i greu swyddi a datblygu sgiliau yng Nghymru, gan arfogi ymchwilwyr a pheirianwyr ag arbenigedd uwch mewn seiberddiogelwch i gefnogi twf y diwydiant".

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Hanfod y rhaglen Endeavr yw tyfu economi Cymru drwy helpu i droi syniadau arloesol yn realiti ac rwy'n falch o weld technoleg flaengar sy'n cael ei datblygu gan Brifysgol Abertawe yn cefnogi Airbus Defence and Space.”

Meddai Nick Crew, Swyddog Gweithrediadau Cymru Airbus Endeavr: “Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag arbenigwyr nodedig ym maes seiberddiogelwch a pheirianneg systemau o Brifysgol Abertawe a Novel i gynnig seiberddiogelwch gweithredol effeithiol a chynyddol yn ein diwydiant.”

Fel rhan o'u gwaith, bydd y tîm yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Canfod bygythiadau yn gynnar – Datblygu dulliau i ragweld ac atal seiberfygythiadau cyn iddynt effeithio ar weithrediadau awyrofod
  • Dilysu diogelwch – Creu dulliau newydd i brofi a dilysu mesurau seiberddiogelwch ym mhensaernïaeth systemau
  • Fframweithiau arfer gorau - Sefydlu canllawiau'r diwydiant ar gyfer integreiddio seiberddiogelwch yn ystod y cam dylunio
  • Glynu wrth safonau a rheoliadau diogelwch awyrofod presennol

Drwy gydweithio agos, nod Prifysgol Abertawe, Airbus Endeavr Wales a Novel yw gwreiddio'r arloesiadau hyn ar draws y sector a rhannu eu canfyddiadau i gryfhau gwydnwch seiber y diwydiant awyrofod.

Mae'r prosiect hwn yn amlygu sut gall cydweithio rhwng y byd academaidd a'r byd diwydiant arwain arloesedd gan sicrhau bod y DU yn parhau ar flaen y gad o ran datblygu diwydiant awyrofod sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy.

Rhannu'r stori